|
TEITL |
Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 |
|
DYDDIAD |
8 Mai 2025 |
|
GAN |
Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai |
Mae’n bleser gennyf hysbysu’r aelodau y gosodwyd Gorchymyn drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (‘y Gorchymyn Cynnal Etholiadau’) yn ffurfiol gerbron y Senedd heddiw. Mae’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau yn amlinellu’r gweithdrefnau ar gyfer cynnal etholiadau i’r Senedd. Mae’n rhoi manylion ynghylch sut y caiff yr etholiad ei reoli a sut y mae ymgeiswyr unigol yn cynnal eu hymgyrch etholiadol ac yn cyfrif am eu gwariant mewn perthynas â’r ymgyrch honno. Mae hefyd yn mynd i’r afael â’r broses ar gyfer heriau cyfreithiol i etholiad.
Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn y gwaith cynhwysfawr i ail-wneud Gorchymyn wedi’i gydgrynhoi cyn Etholiadau’r Senedd yn 2026, gan ddisodli fersiwn flaenorol 2007 a ddiwygiwyd yn helaeth. Mae’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau newydd yn fwy eglur, yn defnyddio iaith fodern, niwtral o ran rhywedd a hygyrch, ac mae’n gwbl ddwyieithog am y tro cyntaf.
Bydd strwythur y Gorchymyn yn gyfarwydd, ond fe’i diweddarwyd gyda’r bwriad o weithredu’r newidiadau deddfwriaethol sylweddol sy’n ofynnol gan Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 i adlewyrchu’r newidiadau i system etholiadol y Senedd. Mae hefyd yn datblygu’r cynigion polisi a amlinellwyd yn y Papur Gwyn ar Ddiwygio Etholiadol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, a thrwy Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
Heddiw, rydym hefyd wedi cyhoeddi’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r adborth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol, a gynhaliwyd o 25 Tachwedd 2024 i 17 Chwefror 2025.
Roedd y Gorchymyn drafft a oedd yn destun yr ymarfer ymgynghori yn cynnwys darpariaeth i sefydlu gweithdrefn newydd ar gyfer cywiro datganiadau pleidleisio drwy’r post. Nod y weithdrefn fyddai lleihau’r lefel bresennol o bleidleisiau drwy’r post a wrthodir yn ddiangen drwy roi cyfle i bleidleiswyr drwy’r post gywiro camgymeriadau cyffredin a wnaed wrth ddarparu dynodyddion personol ar eu datganiad pleidleisio drwy’r post cyn i’r pôl gau. Fodd bynnag, yn sgil ystyried yr adborth a dderbyniwyd gan randdeiliaid fel rhan o’r ymgynghoriad, bydd y Llywodraeth yn gohirio’r trefniadau i roi’r weithdrefn gywiro ar waith. O ganlyniad, bydd yn bosibl cynnal rhagor o ymarferion ymgysylltu â gweinyddwyr etholiadol i ddatblygu a mireinio’r weithdrefn ymhellach ac i ymchwilio i’r opsiynau i’w cyflwyno ar adeg ddiweddarach. O ganlyniad, mae’r darpariaethau sy’n ymwneud â’r weithdrefn gywiro wedi cael eu dileu o’r Gorchymyn Cynnal Etholiadau.
Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb wnaeth gymryd rhan yn y broses ymgynghori. Mae’r ymarferion ymgysylltu a gynhaliwyd ag ystod o randdeiliaid a’r cyhoedd, a’r cyfraniadau a dderbyniwyd ganddynt, wedi bod yn hynod werthfawr ar gyfer ffurfio darpariaethau terfynol y Gorchymyn Cynnal Etholiadau. Hoffwn ddiolch hefyd i’r Pwyllgor Biliau Diwygio am yr adroddiad trylwyr ar y Gorchymyn drafft o fewn cyfyngiadau’r cyfnod ymgynghori.
Edrychaf ymlaen at y ddadl yn y Senedd ar y Gorchymyn hwn yn ddiweddarach yn ystod tymor yr haf.